Ezekiel 30

Dydd Barn ar yr Aifft yn dod!

1A dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud:

Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!”
3Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos;
dydd barn yr Arglwydd!
Diwrnod o gymylau duon bygythiol;
amser anodd i'r gwledydd i gyd.
4Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aifft
a bydd teyrnas Cwsh
30:4,9 Cwsh Teyrnas i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
mewn panig
wrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw,
cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdd
a'i sylfeini'n cael eu dinistrio.

5“‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel
30:5 pobl Israel Hebraeg, “meibion tir yr ymrwymiad”
sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’

6Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio.
Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw!
Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro
yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’”

—y Meistr, yr Arglwydd, sy'n dweud hyn.

7“‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. 8Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r Arglwydd pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi. 9Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’”

10“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft. 11Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw. 12Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!

13“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd. 14Bydda i'n dinistrio Pathros, yn cynnau tân yn Soan ac yn cosbi Thebes. 15Bydda i'n tywallt fy llid ar gaer Pelwsiwm
30:15,16 Hebraeg  Sin;. Caer filwrol ar ffin gogledd-ddwyrain yr Aifft.
ac yn lladd holl filwyr Thebes.
16Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd. 17Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis
30:17 Hebraeg,  On a Pi-beseth.
yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
18Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben
30:18 dod â grym … i ben Hebraeg, “torri iau yr Aifft”
. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
19Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.’”

Torri braich y Pharo

20Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf
30:20 seithfed diwrnod o'r mis cyntaf Ebrill 29, 587 CC mae'n debyg. Roedd hyn 3 mis yn unig cyn i fyddin Babilon dorri trwy waliau Jerwsalem – gw. 2 Brenhinoedd 25:3-4
, a dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd:
21“Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto. 22Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau – y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri – a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr. 23Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. 24Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi ei anafu ac sydd ar fin marw. 25Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft. 26Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd!”

Copyright information for CYM